Opening up committees is a step forward for stronger democracy in Wales

This is a copy of a Guest Blog written for the National Assembly for Wales
English /
Cymraeg

It’s great to see the fifth National Assembly starting off with a strong intention to increase public participation. The Culture, Welsh Language and Communications Committee has already started, committee chair Bethan Jenkins asking the public to help shape what they talk about through a range of innovative and original channels. This is the stamp of a modern legislature, one that is invested in strong democracy and the best interests of the people that it serves. Open, transparent and accessible legislatures are the way of the future and we can see this happening around the world:

  • in Westminster the Petitions Committee is drawing in new audiences to watch what their parliament is doing and to get involved in debates;
  • in Brazil and Chile legislation is shared online with the public, who can comment, amend and vote on those changes before they are referred back to members;
  • legislatures as diverse as Georgia, Paraguay and France are implementing strategies to increase public involvement in what they do and to ensure that is transparent and accessible;
  • Scotland, Italy and the Czech Republic are examples of parliaments who are providing real-time, open access to their data, whilst the Dutch and New Zealand parliaments provide online, fully searchable archives of their parliamentary record; and
  • Serbia and Peru are amongst the legislatures around the world actively partnering with civil society organisations, finding new ways to open up, reach out, listen and to share.

This is disruptive practice and even positive disruption brings challenges. Members can feel that increased participation encroaches on, some say threatens, their role in a representative democracy. In reality, experience shows us, it does the opposite. And we have to put innovations like this in context; members still make the decisions, they still decide on the majority of committee business. But in the age of social media and constant news, it quickly becomes obvious that being more engaged and better connected significantly benefits members who want to feel the pulse of their communities. The world over, our representatives have to accept doing their job not only in the full gaze of increased public scrutiny but with greater public involvement. This is a good thing; democracy is not about a vote every five years but having a voice every day. The world has changed, forcing us to reshape the work of legislatures as more and more varied channels of public participation and interaction open up. To understand why this matters we first have to accept the benefits of greater public engagement, and those benefits are many. There are logistical challenges too, knowing which tools to use and not trying to own or control them (or the discussion). We have to develop a willingness to go where the people are, to use the tools they use, to choose what’s best for the job at hand. A more informed and engaged public makes for a stronger democracy. Creating new ways to give people a voice and get more involved in what their representatives are doing starts to break down the barriers of mistrust that have calcified across too many of our public institutions. It’s not a panacea, there is no silver bullet and people are slow to trust, quick to push their own agendas, to express frustration when they don’t get their own way. We can’t expect a system that has been distrusted, has often been perceived as closed and controlling, to change overnight and nor should we expect public attitudes to shift immediately either, that would be naive. This is an ongoing process, we need to be cautious and tolerant but equally to press ahead with the confidence of knowing that being more open is better for all of us in the long run. Opening up committees can feel hard because it is hard. But it is both the right thing to do and necessary. It’s a reflection on the ongoing societal shift in our attitudes and approach to democracy, which will be easier to embrace if we can talk openly and honestly about what it means, for elected representatives, staff and the public. Opening up committees is about inclusion. It’s about stronger representation, making democracy more participatory and how this benefits members and the public. Open democracy leads to better legislation, legislation that is thoughtful and appropriate, that is based on a wider set of views, immersed in the experiences of real people. Legislation that better reflects who we are. The world is complex and finding new, reliable ways of solving problems will be easier when we can effectively harness that significant reservoir of talent, knowledge and ideas that has lain untapped for far too long. To get there, we need more education, more information and more partners to promote greater political maturity and effective engagement. We need more people, different voices, to be heard and heard more often. Inviting people into committees, asking them to help shape the agenda and giving them more space to be heard are positive steps forward. This trajectory towards more effective engagement is what modern democracy is all about.

Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru

Mae’n wych gweld y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau gyda bwriad cryf i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisoes wedi dechrau, gyda chadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins, yn gofyn i’r cyhoedd helpu i lywio’r hyn maent yn siarad amdano drwy amrywiaeth o gyfryngau arloesol a gwreiddiol.

Dyma stamp o ddeddfwrfa fodern, un sydd wedi buddsoddi mewn democratiaeth gref a buddiannau gorau y bobl y mae’n gwasanaethu.

Deddfwrfeydd agored, tryloyw a hygyrch yw’r dyfodol a gallwn weld hyn yn digwydd ledled y byd:

  • yn San Steffan, mae’r Pwyllgor Deisebau yn denu cynulleidfaoedd newydd i wylio’r hyn y mae eu senedd yn gwneud a chymryd rhan mewn dadleuon;
  • yn Brazil a Chile, mae deddfwriaeth yn cael ei rhannu ar-lein â’r cyhoedd, a all roi sylwadau, diwygio a phleidleisio ar y newidiadau hynny cyn iddynt gael eu cyfeirio’n ôl at aelodau;
  • mae deddfwrfeydd mor eang â GeorgiaParaguay a Ffrainc yn gweithredu strategaethau i gynyddu cyfraniad y cyhoedd yn yr hyn maent yn gwneud i sicrhau eu bod yn dryloyw a hygyrch;
  • Mae’r Albanyr Eidal a’r Weriniaeth Tsiec yn enghreifftiau o seneddau sy’n darparu mynediad agored amser real i’w data, tra bod seneddau’r Iseldiroedd a Seland Newydd yn darparu archifau ar-lein y gellir chwilio drwyddynt yn llawn o gofnodion eu seneddau; ac
  • mae Serbia a Periw ymysg y deddfwrfeydd o amgylch y byd sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil, gan chwilio am ffyrdd newydd o agor i fyny, estyn allan, gwrando a rhannu.

Mae hwn yn arfer sy’n tarfu ar y gwaith ac mae tarfu mewn ffordd gadarnhaol, hyd yn oed, yn gallu golygu heriau. Gall aelodau deimlo bod mwy o gyfraniad yn tresmasu ar eu rôl fel democratiaeth gynrychioliadol, ac mae rhai hyd yn oed yn dweud ei fod yn bygwth hynny. Mewn gwirionedd, mae profiad yn dangos i ni ei fod yn gwneud y gwrthwyneb. Ac mae’n rhaid i ni roi datblygiadau fel hyn yn eu cyd-destun; mae aelodau yn dal i fod yn gwneud y penderfyniadau, maent yn dal i benderfynu ar y rhan fwyaf o fusnes pwyllgorau. Ond, ym myd y cyfryngau cymdeithasol a newyddion cyson, mae’n amlwg bod ymgysylltu’n fwy a chysylltu’n well o fudd sylweddol i aelodau sydd am deimlo’r hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau. Ledled y byd, mae’n rhaid i’n cynrychiolwyr dderbyn gwneud eu gwaith nid yn unig yn llygad craff y cyhoedd ond gyda rhagor o gyfraniad gan y cyhoedd. Mae’n beth da; nid yw democratiaeth yn golygu pleidlais bob pum mlynedd; mae’n golygu cael llais bob dydd.

Mae’r byd wedi newid, gan ein gorfodi i ail-lunio gwaith deddfwrfeydd wrth i fwy a mwy o gyfryngau amrywiol o gyfraniad cyhoeddus a rhyngweithio ddod i’r amlwg. Er mwyn deall pam bod hyn yn bwysig, i ddechrau mae’n rhaid i ni dderbyn y manteision o ymgysylltu mwy â’r cyhoedd, ac mae’r manteision hynny yn niferus. Mae yna heriau logistaidd hefyd, gwybod pa offer i’w defnyddio a cheisio peidio â berchen arnynt neu eu rheoli (neu’r drafodaeth). Mae’n rhaid i ni ddatblygu parodrwydd i fynd lle mae pobl, defnyddio’r offer maen nhw’n eu defnyddio, dewis beth sydd orau i’r swydd dan sylw.

Mae cyhoedd mwy gwybodus ac sy’n cymryd rhan yn creu democratiaeth gryfach.

Mae creu ffyrdd newydd i roi llais i bobl a chael mwy o ran yn yr hyn mae eu cynrychiolwyr yn ei wneud yn dechrau goresgyn y rhwystrau o ddiffyg ymddiriedaeth sydd wedi datblygu ar draws nifer o’n sefydliadau cyhoeddus. Nid yw’n ateb i bob problem. Does dim ateb syml ac mae pobl yn cymryd amser i ymddiried, yn gyflym i wthio eu hagenda eu hunain, i fynegi rhwystredigaeth pan nad ydynt yn cael eu ffordd eu hunain. Ni allwn ddisgwyl i system y mae pobl wedi bod yn ddrwgdybus ohoni ac sy’n cael ei gweld fel peth caeedig sy’n rheoli newid dros nos ac ni ddylem ddisgwyl i agweddau cyhoeddus newid yn syth ychwaith. Byddai hynny’n naïf. Proses barhaus yw hon. Mae angen i ni fod yn ofalus a goddefgar ond hefyd i fwrw ymlaen â’r hyder o wybod fod bod yn fwy agored yn well i bawb yn y pen draw.

Gall agor pwyllgorau i fyny deimlo’n galed am ei fod yn galed. Ond dyna’r peth iawn i’w wneud ac mae’n angenrheidiol. Mae’n adlewyrchiad o’r newid cymdeithasol parhaus yn ein hagweddau at ddemocratiaeth, a fydd yn haws i’w groesawu os gallwn siarad yn agored a gonest am yr hyn mae’n golygu i gynrychiolwyr etholedig, staff a’r cyhoedd.

Mae agor pwyllgorau i fyny yn golygu cynhwysiant. Mae’n golygu cynrychiolaeth gryfach, gwneud democratiaeth yn fwy cyfranogol a sut mae hyn o fudd i aelodau a’r cyhoedd. Mae democratiaeth agored yn arwain at well ddeddfwriaeth, deddfwriaeth sy’n ystyrlon a phriodol, sy’n seiliedig ar safbwyntiau ehangach, wedi’u trochi ym mhrofiadau pobl go iawn. Deddfwriaeth sy’n adlewyrchu’n well pwy ydym ni. Mae’r byd yn gymhleth, a bydd dod o hyd i ffyrdd newydd, dibynadwy o ddatrys problemau yn haws pan fyddwn yn gallu harneisio’r gronfa enfawr o dalent, gwybodaeth a syniadau sydd heb ei gyffwrdd am lawer rhy hir. I gyrraedd yno, mae angen mwy o addysg arnom, mwy o wybodaeth a mwy o bartneriaid i hybu gwell aeddfedrwydd gwleidyddol ac ymgysylltu’n effeithiol.

Mae angen mwy o bobl arnom, lleisiau gwahanol i gael eu clywed a’u clywed yn amlach. Mae gwahodd pobl i bwyllgorau, gofyn iddynt helpu i lunio’r agenda a rhoi mwy o le iddynt gael eu clywed yn gamau cadarnhaol ymlaen. Y llwybr hwn tuag at ymgysylltu’n effeithiol yw hanfod democratiaeth fodern.